Mae Daf y gath wedi cael syniad am fenter arall. Mae hi’n mynd i sefydlu treipfa lle bydd hi’n cynhyrchu digon o dreip i fwydo Cymru gyfan.
Mae treip yn fwyd iach, yn llawn o brotein.
Yn anffodus mae treip yn ffiaidd.
Oes rhywun yn bwyta treip o hyd?
Nac oes.
Ond mae’n rhy hwyr i boeni am bethau felly.
Mae hi eisoes wedi cyflogi’r enwog Bryn Teribl ac Owain Glyndŵr, ac maen nhw wedi dechrau adeiladu’r dreipfa’n barod.

Saesneg / English
Tripery
Dave the cat has had an idea for another venture. She is going to set up a tripery where she is going to produce enough tripe to feed the whole of Wales.
Tripe is a healthy food, full of protein.
Unfortunately tripe is disgusting.
Does anyone still eat tripe?
No.
But it’s too late to worry about things like that.
She has already employed the famous Bryn Teribl and Owain Glyndŵr, and they have already started building the tripery.