Mae sŵn ofnadwy’n dod o eglwys newydd yr Esgob.
Mae’n swnio fel bod pla o ych gwyllt yn codi stŵr.
Beth yw e?
Mae Daf y gath yn mynd i’w ymchwilio.
Ydy Santes Dwynwen yn defnyddio’r hŵfer?
Nac ydy.
Oes ych gwyllt yn yr eglwys wedi’r cyfan?
Nac oes.
Dyma’r enwog Bryn Teribl a’i gitâr fas.
Arhoswch am eiliad.
On’d oedd yr enwog Bryn Teribl wedi gadael am byth?
Yn amlwg ddim.
Saesneg / English
Noise
A terrible noise is coming from the Bishop’s new church.
It sounds like a plague of bison is causing a kerfuffle.
What is it?
Dave the cat goes to investigate.
Is Santes Dwynwen using the hoover?
She isn’t.
Are there bison in the church after all?
No there aren’t.
It’s the famous Bryn Teribl and his bass guitar.
Wait a moment.
Hadn’t the famous Bryn Teribl left forever?
Obviously not.