Roedd Daf y gath am ail-adeiladu Crymych ar ôl i octopws anferth ei fwyta.
Pwy fyddai’n ei helpu?
Wel, roedd Waldo Williams yn barod gyda’i weiars a lifers, ynghyd â Santes Dwynwen, oedd yn barod i gymysgu’r sment.
Ond dyma’r Esgob yn prowlan o gwmpas y safle.
Roedd yr Esgob am feddiannu’r tir ac adeiladu eglwys ogoneddus newydd.
— Yr eglws ore ariôd fydd hi, meddai’r Esgob, oedd wedi pigo lan y dafodiaith leol.
Mawredd.

Saesneg / English
Church
Dave the cat wanted to rebuild Crymych after a giant octopus had eaten it.
Who would help her?
Well, Waldo Williams was ready with his wires and levers, along with Saint Dwynwen, who was ready to mix the cement.
But the Bishop was prowling around the site.
The Bishop wanted to take over the land and build a glorious new church.
— It will be the best church ever, said the Bishop, who had picked up the local dialect.
Crikey.