Un tro, cafodd Daf y gath ei dihuno gan rywun oedd yn codi stŵr yn y gegin.
Roedd Santes Dwynwen yn gwrando ar y newyddion ar y radio.
Rhaid bod rhywbeth mawr o’i le, meddyliodd Daf.
Yn wir, roedd rhywbeth mawr o’i le. Roedd Santes Dwynwen mewn sioc.
Digwydd bod, roedd rhywun wedi dwyn Crymych. Doedd dim ond twll yn y ddaear lle’r oedd y pentref wedi bod.
O diar.
Mae troseddwyr ym mhobman y dyddiau hyn.

Saesneg / English
Absence
One day, Dave the cat was awoken by someone who was making a fuss in the kitchen.
Santes Dwynwen was listening to the news on the radio.
There must be something very wrong, Dave thought.
Something was indeed very wrong. Saint Dwynwen was in shock.
As it happened, someone had stolen Crymych. There was only a hole in the ground where the village had been.
Oh dear.
There are criminals everywhere these days.