1202: Waldos

Mae pedwar Waldo Williams mewn tafarn yng Nghrymych dystopaidd 3025. Ynddengys bod Waldo wedi teithio drwy amser sawl gwaith a rhwygo gofod-amser.

Mae’r Waldos yn cynnal cyfarfod. Maen nhw i gyd am newid hanes fel na fydd Daf y Gath yn mynd yn anfad.

Beth allan nhw wneud?

Os ydyn nhw am fynd yn ôl i 2025, bydd angen arnyn nhw fynd ar gyflymder o wyth deg wyth milltir yr awr, heb dynnu atyn nhw eu hunain.

Cyn bo hir, mae’r Waldos wedi dod o hyd i hen fath tun ac atodi olwynion pram iddo. Maen nhw’n eistedd yn y bath ar gopa Foel Eryr a pharatoi i lansio eu hunain i lawr y mynydd.

Beth allai fynd o’i le?

Maen nhw’n cyfri i ddeg ac yna bant â nhw. Mae golau yn fflachio, ac yn sydyn, yn ôl yn 2025, mae bath tun yn ymddangos yn sgwâr Crymych, lle mae Daf y gath yn chwarae gyda’i chynffon.

— Daf, medd y Waldos ag un llais, — Paid bod yn anfad.

— OK, medd Daf.

Ac felly maen nhw’n newid hanes.

“Mae’r Waldos wedi dod o hyd i hen fath tun ac atodi olwynion pram iddo.”

Saesneg / English

Waldos

There are four Waldo Williamses in a pub in dystopian Crymych 3025. It appears that Waldo has travelled through time several times and torn space-time.

The Waldos are holding a meeting. They all want to change history so that Dave the Cat will not become evil.

What can they do?

If they want to go back to 2025, they will need to go at a speed of eighty-eight miles an hour, without drawing attention to themselves.

Before long, the Waldos have found an old tin bath and attached pram wheels to it. They sit in the bath on the summit of Foel Eryr and prepare to launch themselves down the mountain.

What could go wrong?

They count to ten and then off they go. A light flashes, and suddenly, back in 2025, a tin bath appears in Crymych square, where Dave the cat is playing with her tail.

— Dave, say the Waldos in unison, – Don’t be evil.

— OK, says Dave.

And so they change history.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.