Ar ôl i Ceri Llwyd o’r Pandas Pink gael ei ddienyddio, mae baner newydd yn ymddangos yn hedfan o bolyn uwchben Crymych distopaidd y dyfodol.
Beth sydd ar y faner?
Pawen haearn.
Mae Jeff y gath wedi penderfynu nad yw’r cathod wedi bod yn ddigon llym. Bydd mwy o drefn o hyn ymlaen.
Mawredd.
Nid yw Waldo Williams y gorffennol yn gallu ymdopi gyda’r hyn mae e wedi gweld, felly mae e’n mynd i’r dafarn er mwyn ceisio anwybyddu baner y bawen haearn.
Yn y dafarn, mae e’n gweld sawl Waldo Williams arall. Mae golwg ddryslyd ar bob un ohonyn nhw.
O na. Ymddengys bod Waldo wedi rhwygo gofod-amser, a dychwelyd i Grymych 3025 sawl gwaith. O diar.

Saesneg / English
Iron paw
After Ceri Llwyd from the Pink Pandas is executed, a new flag appears flying from a pole above the dystopian Crymych of the future.
What is on the flag?
An iron paw.
Jeff the cat has decided that the cats have not been strict enough. There will be more order from now on.
Crikey.
The Waldo Williams of the past cannot cope with what he has seen, so he goes to the pub to try to ignore the flag of the iron paw.
In the pub, he sees several other Waldo Williamses. All of them look confused.
Oh no. Waldo seems to have torn space-time, and returned to Crymych 3025 several times. Oh dear.