1200: Pen Ceri Llwyd

Mae’r fwyell yn disgyn. Mae’n cwrdd â’r blocyn â chnoc arswydus.

Mae pen Ceri Llwyd, gitarydd Y Pandas Pinc, wedi’i dorri i ffwrdd gan yr enwog Kate Roberts yng Nghrymych dystopaidd 3025.

Dyw Waldo Williams ddim yn gwybod beth i’w wneud. Mae e am fynd yn ôl i 2025 lle mae popeth yn gwneud synnwyr.

Mae Daf y gath yn rheoli’r wlad â phawen haearn. Bydd pawb sy’n ei gwrthwynebu yn cael eu dienyddio, gan gynnwys pob un pysgodyn sy’n gwrthod cael ei goginio ar gyfer swper Daf.

Mae Daf yn mynnu cael ei swper y naill ffordd neu’r llall.

Mawredd.

“Mae Daf y gath yn rheoli’r wlad â phawen haearn.”

Saesneg / English

Ceri Llwyd’s head

The axe falls. It meets the block with a horrific thump.

The head of Ceri Llwyd, the guitarist of The Pink Pandas, has been cut off by the famous Kate Roberts in the dystopian Crymych 3025.

Waldo Williams doesn’t know what to do. He wants to go back to 2025 where everything makes sense.

Dave the cat rules the land with an iron paw. Everyone who opposes her will be executed, including every single fish that refuses to be cooked for Dave’s supper.

Dave insists on having her supper one way or another.

Crikey.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.