1199: Cyhoeddiad

Mae Crymych y dyfodol yn ddystopaidd iawn.

Yn y flwyddyn 3025 mae Daf y gath yn rhedeg y sioe, ac mae Waldo Williams y gorffennol wedi gwylio Kate Roberts y dyfodol yn dienyddio pysgodyn o flaen torf fawr.

Mae cerddoriaeth wael yn chwarae dros seinyddion ar yr heol fawr. Mae’r geiriau i gyd yn dathlu Daf y gath a’i doethineb.

Mawredd.

Cyn bo hir, mae cyhoeddiad.

Ymddengys bydd dienyddiad arall yfory.

Pwy fydd yn cael ei dienyddio? Pysgodyn arall fydd e?

Na fydd.

Bydd holl aelodau’r band Y Pandas Pinc yn cael eu dienyddio.

Mawredd.

Arhoswch am eiliad, meddylia Waldo, wes neb ‘di ecspleino pam fod Kate Roberts a’r Pandas Pinc ‘na’n dal i fyw.

Cywir.

“Mae’r geiriau i gyd yn dathlu Daf y gath a’i doethineb.”

Saesneg / English

Announcement

The Crymych of the future is very dystopian.

In the year 3025 Dave the cat is running the show, and the Waldo Williams of the past has watched the Kate Roberts of the future execute a fish in front of a large crowd.

Bad music plays over speakers on the high street. All the lyrics celebrate Dave the cat and her wisdom.

Crikey.

Soon, there is an announcement.

It seems there will be another execution tomorrow.

Who will be executed? Will it be another fish?

It won’t.

All the members of the band The Pink Pandas will be executed.

Crikey.

Wait a second, Waldo thinks, no one has explained why Kate Roberts and the Pink Pandas are still alive.

Correct.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.