Mae Waldo Williams wedi mynd i Grymych y dyfodol o ganlyniad i reidio ei fotor-beic ar gyflymder o wyth deg wyth milltir yr awr.
Er taw’r flwyddyn tair mil dau ddeg pump yw hi, mae Daf y gath yn dal i fyw.
Am annisgwyl!
Pam mae Daf y gath yn anfarwol?
Pwy a ŵyr.
Ydy Jeff y gath yn dal i fyw hefyd?
Ydy. Hi yw’r arglwyddes arch-dienyddwraig.
Mawredd.
Felly, beth mae Daf yn wneud ym myd y dyfodol?
Mae Daf y gath yn rhedeg y wlad o’i phencadlys yng Nghrymych. Mae hi wedi gorfodi Cymru i gyd i siarad tafodiaith Sir Benfro, ac mae siarad Saesneg, neu Gog, yn hollol anghyfreithlon erbyn hyn.
Mawredd.
— O helo Waldo, medd Daf. — Wê pawb yn drichid mlân at d’weld di ‘to. Shwd wedd y siwrne?
— Gweddol, medd Waldo. — Ond ma motor-beic fi yn hollol nacrd.
— Sdim angen motor-beics dim mwy, medd Daf. — Ma gida ni hofranfyrddau y dyddie ma.

Saesneg / English
The eternal Dave
Waldo Williams has gone to the Crymych of the future as a result of riding his motorbike at a speed of eighty eight miles an hour.
Although it is the year three thousand and twenty five, Dave the cat is still alive.
How unexpected!
Why is Dave the cat immortal?
Who knows.
Is Jeff the cat still alive too?
Yes. She is the Lady High Executioner.
Crikey.
So, what does Dave do in the future?
Dave the cat is running the country from her headquarters in Crymych. She has forced all of Wales to speak Pembrokeshire dialect, and speaking English, or North Walian, is now completely illegal.
Crikey.
— Oh hello Waldo, says Dave. – Everyone has been looking forward to seeing you again. What was the journey like?
— Fair, says Waldo. – But my motorbike is completely knackered.
— There’s no need for motorbikes any more, says Dave. — We have hoverboards these days.