1177: Digwyddiadau goruwchnaturiol

Pwy fydd yn helpu Jeff y gath a’r enwog Waldo Williams i hela ysbrydion?

Dyma’r enwog T. H. Parry-Williams. Mae rhwyd fawr gydag e.

Ble ydyn nhw’n mynd i chwilio am ysbrydion?

Wrth reswm, maen nhw’n mynd i ddechrau yng ngweithdy weldio’r enwog Bryn Teribl.

Oes digwyddiadau goruwchnaturiol wedi bod?

Oes.

Mae Bryn Teribl wedi gweld ysbryd yn ymddangos mewn cwmwl o fwg yn y gornel yn ddiweddar.

Arhoswch am eiliad.

Nid ysbryd mo hwnnw. Dewi Sant yw e.

“Nid ysbryd mo hwnnw. Dewi Sant yw e.”

Saesneg / English

Supernatural occurrences

Who will help Jeff the cat and the famous Waldo Williams to hunt ghosts?

Here is the famous T. H. Parry-Williams. He has a big net.

Where are they going to look for ghosts?

Naturally, they are going to start in the famous Bryn Teribl’s welding workshop.

Have there been supernatural events?

Yes.

Bryn Teribl has seen a ghost appear in a cloud of smoke in the corner recently.

Wait a moment.

That’s not a ghost. It’s Saint David.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.