1170: Eira

Mae hi’n bwrw eira.

Fel canlyniad, mae’r cathod yn gwrthod mynd allan.

Ond am ryw reswm mae’r capybaraod yn neidio a champio mas tu fas yn yr oerfel.

Beth yw’r rheswm dros eu llawenydd nhw?

Dreamies Daf y gath, siŵr o fod.

Arhoswch am eiliad.

Os ydyn nhw wedi cymryd Dreamies seicedelig Daf, yna fe ddylen nhw fod wedi mynd i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel.

Mae rhywbeth yn codi cywilydd ar yr enwog Bryn Teribl. Mae ei fochau’n goch i gyd.

Ymddengys fod yr enwog Bryn Teribl wedi weldio’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel ar gau yn lle cael gwared ar y capybaraod.

O diar.

“Am ryw reswm mae’r capybaraod yn neidio a champio mas tu fas yn yr oerfel.”

Saesneg / English

Eira

It is snowing.

As a result, the cats are refusing to go outside.

But for some reason the capybaras are frolicking in the cold.

What is the reason for their joy?

Probably Dave the cat’s Dreamies.

Wait a moment.

If they have taken Dave’s psychedelic Dreamies, then they should have gone to the Other Crymych beyond the horizon.

Something is making the famous Bryn Teribl feel ashamed. His cheeks are all red.

It seems that the famous Bryn Teribl has welded the Other Crymych beyond the horizon shut instead of getting rid of the capybaras.

Oh dear.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.