October 16, 2024

Ble mae Natalie Darllen?

Mae Natalie Darllen mewn ogof danddaearol ar y blaned Mawrth.

Ydy hi’n arwain clwb darllen?

Wrth gwrs.

Ydy hi wedi dewis llyfr ofnadwy ar gyfer y Mawrthiaid?

Wrth gwrs.

Mae hi wedi dewis llyfr am “Dyfrig y gath” sydd yn gall iawn a gwneud pethau normal fel bwyta bwyd cathod ac eistedd ar y llawr.

Am ddiflas.

Mae’r Mawrthiaid yn dechrau dysgu Cymraeg, o leiaf, oherwydd yr holl luniau sydd yn y llyfr. Ond mae eu sgyrsiau’n gyfyngedig iawn.

— Wyt ti eisiau bwyd?

— Dw i’n hoffi bwyd cathod.

— Dw i’n hoffi eistedd ar y llawr.

— Da iawn.

— Da iawn.

O diar.

Dyfrig y gath.

Saesneg / English

Dyfrig

Where is Natalie Darllen?

Natalie Darllen is in an underground cave on the planet Mars.

Is she leading a reading club?

Of course.

Has she chosen a terrible book for the Martians?

Of course.

She has chosen a book about “Dyfrig y gath” who is very sensible and does normal things like eating cat food and sitting on the floor.

How boring.

The Martians are starting to learn Welsh, at least, because of all the pictures in the book. But their conversations are very limited.

— Do you want food?

— I like cat food.

— I like sitting on the floor.

— Very good.

— Very good.

    Oh dear.

    Leave a Reply

    Your email address will not be published. Required fields are marked *

    This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.