October 16, 2024

Ar y blaned Mawrth, mae Daf y gath wedi dod o hyd i olion traed yn y tywod coch.

Maen nhw’n edrych fel ei bod nhw wedi cael eu gwneud gan rywun oedd yn rhedeg. Bob hyn a hyn, maen nhw’n troi mewn cylch.

Pwy allai fod wedi eu gwneud?

Yn bwysicach fyth, pam mae Owain Glyndŵr newydd saethu heibio? Mae e’n mynd fel cath i gythraul.

Sut ddaeth Owain Glyndŵr i’r blaned Mawrth? Breuddwyd yw hwn? Ydy Daf y gath wedi cymryd gormod o Dreamies unwaith eto?

Nid breuddwyd mohono. Dyma’r Owain Glyndŵr go iawn. Mae e’n rhedeg i ffwrdd o Natalie Darllen. Mae e’n rhuo fel tarw, baglu ei hunan, a chwympo’n plwnsh.

O diar.

“Ar y blaned Mawrth, mae Daf y gath wedi dod o hyd i olion traed yn y tywod coch.”

Saesneg / English

Footprints

On Mars, Dave the cat has found footprints in the red sand.

They look like they were made by someone who was running. Every now and then, they go round in a circle.

Who could have made them?

More importantly, why has Owain Glyndŵr just hurtled past? He is going hell for leather.

How did Owain Glyndŵr get to Mars? Is this a dream? Has Dave the cat taken too many Dreamies again?

It is not a dream. This is the real Owain Glyndŵr. He’s running away from Natalie Darllen. He roars like a bull, trips himself over, and falls in a heap.

Oh dear.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.