December 3, 2024

Mae Saunders Lewis a Kate Roberts ar daith gyda’r grŵp Y Pandas Pinc.

Mae Saunders Lewis wedi dychwelyd o’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel.

Yn anffodus mae ymddygiad Saunders Lewis yn gwaethygu.

Mae e’n ymddwyn yn wael yn y stryd, mae e’n ymddwyn yn wael y tu cefn i’r llwyfan, ac mae e’n ymddwyn yn ombeidus o flaen cynulleidfa.

Mae e’n gweiddi’n annealladwy trwy’r amser a chwympo’n plwnsh heb rybudd.

Mae’n hollol annerbyniol.

Byddai hyd yn oed yr enwog Owain Glyndŵr yn fwy dibynadwy.

Mae’n hen bryd i Daf y gath wneud galwad ffôn.

“Yn anffodus mae ymddygiad Saunders Lewis yn gwaethygu.”

Saesneg / English

Worsening

Saunders Lewis and Kate Roberts are on tour with the group The Pink Pandas.

Saunders Lewis has returned from the Other Crymych beyond the horizon.

Unfortunately Saunders Lewis’s behaviour is getting worse.

He behaves badly in the street, he behaves badly backstage, and he behaves badly in front of an audience.

He shouts unintelligibly the whole time and collapses without warning.

It is completely unacceptable.

Even the famous Owain Glyndŵr would be more reliable.

It’s about time Dave the cat made a phone call.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.