Mae cyngerdd y Pandas Pinc ar fin dechrau ym muarth y ganolfan grefft.
Erbyn hyn, mae pawb yn y gynulleidfa wedi derbyn Dreamies arbennig oddi wrth Daf y gath.
Dreamies seicedelig ydyn nhw?
Wel, nac ydyn. Dim cweit.
Beth sydd ynddyn nhw?
Cetamin.
O, Daf.
Wel, o leia fydd neb yn mynd ar daith seicedelig beryglus i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel, gan fod y gynulleidfa i gyd yn gorwedd ar y llawr yn ddisymud.
Fydd neb yn gwylio’r Pandas Pinc chwaith.
Am unwaith, mae’r enwog Owain Glyndŵr yn lonydd.
Saesneg / English
Sleep
The Pink Pandas concert is about to start in the craft centre courtyard.
By now, everyone in the audience has received special Dreamies from Dave the cat.
Are they psychedelic dreamies?
Well, no. Not quite.
What’s in them?
Ketamine.
Oh, Dave.
Well, at least no one will go on a dangerous psychedelic trip to the Other Crymych beyond the horizon, as the audience are all lying motionless on the floor.
No one will be watching the Pink Pandas either.
For once, the famous Owain Glyndŵr is still.