Mae Daf y gath wedi penderfynu ehangu ei busnes hi.
Pa fath o ehangiad fydd e?
Ynghyd â’i ffidlau cyntefig, mae hi’n mynd i werthu campweithiau damweiniol yr enwog Owain Glyndŵr yn y ganolfan grefft.
Bydd mwy o elw. Ac mae hynny’n golygu mwy o Dreamies.
Pa mor ddibynadwy yw’r enwog Owain Glyndŵr fel artist?
Gawn ni weld. Beth mae e’n wneud ar hyn o bryd?
Mae e’n esgus bod yn degell.
Saesneg / English
Expanding
Dave the cat has decided to expand her business.
What sort of expansion will it be?
Along with her primitive fiddles, she is going to sell the the famous Owain Glyndŵr’s accidental masterpieces at the craft centre.
There will be more profit. And that means more Dreamies.
How reliable is the famous Owain Glyndŵr as an artist?
Let’s see. What is he doing at the moment?
He’s pretending to be a kettle.