Fe gafodd Owain Glyndŵr y sac am nad yw e’n un da iawn am weldio.
Yn anffodus, dyw e ddim yn un da iawn am liwio chwaith.
Rhoddodd Kate Roberts lyfr lliwio iddo fe, ynghyd â llwyth o ysgrifbinnau blaen ffelt. Roedd hi’n gobeithio byddai fe’n aros y tu mewn i’r amlinellau.
Yn anffodus ddim.
Mae e wedi bod yn sgriblo ar y waliau, sgriblo ar y llawr, sgriblo ar Daf y gath hyd yn oed. Waeth fyth, mae e wedi bod yn cnoi ei ysgrifbinnau. Mae ei geg yn lliwgar iawn.
O diar.
Saesneg / English
Scribbling
Owain Glyndŵr got the sack because he is not very good at welding.
Unfortunately, he’s not very good at colouring in either.
Kate Roberts gave him a colouring book, along with a load of felt tip pens. She hoped he would stay inside the outlines.
Unfortunately not.
He has been scribbling on the walls, scribbling on the floor, even scribbling on Dave the cat. Even worse, he has been chewing his pens. His mouth is very colourful.
Oh dear.