Mae’r enwog Kate Roberts wedi troi lan yn y ganolfan grefft!
Arhoswch am funud. On’d yw hi wedi marw?
Ydy.
Sut ddigwyddodd hynny, felly?
Pwy a ŵyr.
Sombi yw hi?
Efallai.
Mae hi’n defnyddio geiriau anghyfarwydd fel “oblegid” trwy’r amser. Dyw Daf y gath ddim yn ei deall hi o gwbl.
Er hynny, mae hi’n llwyddo i brynu cwpl o beiriannau amaethyddol oddi wrth Jeff y gath.
Ydy’r enwog Kate Roberts yn bwriadu defnyddio’r peiriannau amaethyddol?
Nac ydy. Mae hi wedi eu prynu nhw achos eu bod nhw’n edrych yn ffantastig.
Saesneg / English
Author
The famous Kate Roberts has turned up at the craft centre!
Wait a minute. Isn’t she dead?
Yes.
How did that happen, then?
Who knows.
Is she a zombie?
Maybe.
She uses unfamiliar words like “oblegid” all the time. Dave the cat doesn’t understand her at all.
All the same, she manages to buy a couple of agricultural machines from Jeff the cat.
Does the famous Kate Roberts intend to use the agricultural machines?
No. She has bought them because they look fantastic.