Er syndod mawr i bawb, mae busnes weldio’r enwog Bryn Teribl yn ffynnu. Mae ei gwsmeriaid i gyd wrth eu boddau â’i waith. ‘Dyn nhw heb chwerthin gymaint ers achau.
Felly mae Dewi Sant yn cael syniad.
Mae e’n prynu’r adeilad y drws nesa i weithdy Bryn Teribl. Yma bydd e’n cynhyrchu sigârs crefft.
Emosiwn pwerus yw cenfigen.
Yn sydyn, mae’r holl griw am sefydlu busnes newydd.
Maen nhw’n prynu’r holl adeiladau sydd wedi eu lleoli o amgylch y buarth.
Mae Dewi Sant eisoes wedi darlunio arwydd.
CANOLFAN GREFFT DEWI SANT, mae’r arwydd yn dweud.
Saesneg / English
Craft centre
Much to everyone’s surprise, the famous Bryn Teribl’s welding business is thriving. All his customers love his work. They haven’t laughed so much in ages.
So Saint David has an idea.
He buys the building next door to Bryn Teribl’s workshop. Here he will produce craft cigars.
Jealousy is a powerful emotion.
Suddenly, the whole crew wants to set up a new business.
They buy all the buildings that are located around the yard.
Dewi Sant has already designed a sign.
SAINT DAVID’S CRAFTS CENTRE, the sign says.