December 26, 2024

Nawr bod Jeff y gath wedi dymchwel Tŷ’r Cyffredin, bydd rhaid i Mrs Llinos Trowsus godi trethi. Mae angen talu am yr holl wersi Cymraeg i’r aelodau seneddol cyn iddyn nhw symud i Fae Caerdydd.

Ac mae’r gwersi’n ddwys iawn iawn.

O diar.

Mae tiwtoriaid Cymraeg yn haeddu cyflog teg, wedi’r cwbl.

Mae Daf y gath eisiau rhoi cynnig ar fod yn diwtor. Mae hi eisiau ennill tamaid bach o arian.

Yn anffodus, mae’r enwog Owain Glyndŵr hefyd eisiau rhoi cynnig ar waith tiwtora. Dyw e ddim yn deall beth mae’r swydd yn ei olygu, wrth gwrs.

Beth fyddai cyflog teg i’r enwog Owain Glyndŵr?

Pum deg ceiniog, efallai.

“Bydd rhaid i Mrs Llinos Trowsus godi trethi.”

Saesneg / English

Taxes

Now that Jeff the cat has demolished the House of Commons, Mrs Llinos Trowsus will have to raise taxes. It is necessary to pay for all the Welsh lessons for the members of parliament before they move to Cardiff Bay.

And the lessons are very very intensive.

Oh dear.

Welsh tutors deserve a fair wage, after all.

Dave the cat wants to try being a tutor. She wants to earn a little bit of money.

Unfortunately, the famous Owain Glyndŵr also wants to try tutoring. He doesn’t understand what the job entails, of course.

What would be a fair salary for the famous Owain Glyndŵr?

Fifty pence, maybe.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.