Mae Brynhild y lychlynwraig eisiau mynd i Valhalla.
– Oni ddylen ni ddefnyddio sillafiad Cymraeg? meddai Daf y gath. Does dim llythyren “v” yn y Gymraeg.
– Falle, meddai Brynhild. – Falle ddim.
Mae Owain Glyndŵr yn dal i fod off ei ben. Mae e’n gwrando ar Van Halen yn y gornel.
– T’wel, meddai Brynhild, sy’n siarad Cymraeg yn naturiol erbyn hyn, – mae’n bwysig cadw at y sillafiad gwreiddiol weithie. Byddai fan halen yn wahanol iawn i Van Halen.
– Byddai, cytuna Daf y gath. – Acsiwli, ydy. Dyna fan halen wedi ei pharcio mas tu fas. Rhaid bo nhw’n dosbarthu halen ffres i Santes Dwynwen yn y gegin.
Mae Owain Glyndŵr yn codi, dringo i mewn i’r fan, a gadael am Valhalla mewn fan halen wrth wrando ar Van Halen.
Saesneg / English
Salt van
Brynhild the viking wants to go to Valhalla.
– Shouldn’t we use Welsh spelling? says Dave the cat. There is no letter “v” in Welsh.
– Maybe, says Brynhild. – Maybe not.
Owain Glyndŵr is still out of his mind. He’s listening to Van Halen in the corner.
– Y’see, says Brynhild, who now speaks Welsh naturally, – it’s important to stick to the original spelling sometimes. Van Halen would be very different from a Salt Van.
– It would, agrees Dave the cat. – Actually, it is. There’s a salt van parked outside. They must be delivering fresh salt to Saint Dwynwen in the kitchen.
Owain Glyndŵr gets up, climbs into the van, and leaves for Valhalla in a salt van while listening to Van Halen.