Mae gwesty Dewi Sant wedi bod yn brysur iawn dros benwythnos y Pasg. Ond mae bron i bawb wedi dychwelyd adref erbyn hyn.
Pawb, hynny yw, heblaw am ffermwr ifanc.
Mae’r ffermwr ifanc yn dod o Geredigion. Mae e’n eistedd yn y bar yn yfed fodca am naw o’r gloch y bore.
Mae e’n feddw gaib. Dim ond tri gair mae e’n gallu dweud: “ffarmo”, “tractor”, a “crasho”.
Gallwn ni i gyd ddychmygu beth ddigwyddodd i’w dractor diweddaraf.
Mae Daf y gath yn ceisio cael sgwrs gyda’r ffermwr ifanc.
– Pwy wt ti a be ti neud? gofyn Daf iddo fe.
– Ffarmo.
– Be ti’n gyrru?
– Tractor.
– Beth yw dy hoff weithgaredd yn y byd?
– Crasho.
A dyna ni gyflwyniad i’r ffermwr ifanc.
Saesneg / English
Young farmer
Saint David’s hotel has been very busy over the Easter weekend. But almost everyone has returned home by now.
Everyone, that is, except for a young farmer.
The young farmer comes from Ceredigion. He is sitting in the bar drinking vodka at nine o’clock in the morning.
He is very drunk. He can only say three words: “farming”, “tractor”, and “crashing”.
We can all imagine what happened to his last tractor.
Dave the cat tries to have a conversation with the young farmer.
– Who are you and what do you do? Dave asks him.
– Farming.
– What do you drive?
– A tractor.
– What is your favourite activity in the world?
– Crashing.
And there we have an introduction to the young farmer.