Mae’r band un dyn yn gadael gwesty Dewi Sant ac anelu at Loegr. Mae e angen ffeindio safle tirlenwi lle mae e’n gallu gwacáu’r bin mae e’n defnyddio fel drwm.
Gwlad frawychus yw Lloegr.
Dyw’r band un dyn ddim yn deall yr un gair mae’r Saeson yn dweud. Mae hynny oherwydd ei het od sy’n gorchuddio ei glustiau.
Pan gyrhaedda’r safle tirlenwi, mae e’n gweld paradwys o wastraff. Mae e mor hapus. Mae biniau ym mhobman!
Yn anffodus, mae’r biniau yn eu holl ogoniant (y biniau ag olwynion yn enwedig) yn gwneud iddo fe anghofio ei brif amcan, sef gwacáu ei fin ei hun.
Mae e’n dychwelyd i westy Dewi Sant gyda rhagor o finiau.
Saesneg / English
More bins
The one man band leaves Saint David’s hotel and heads for England. He needs to find a landfill site where he can empty the bin he uses as a drum.
England is a scary country.
The one man band doesn’t understand a single word the English people say. That’s because of his odd hat that covers his ears.
When he arrives at the landfill site, he sees a paradise of waste. He is so happy. There are bins everywhere!
Unfortunately, the bins in all their glory (especially the wheelie bins) make him forget his main objective, which is to empty his own bin.
He returns to Saint David’s hotel with more bins.