Curodd Santes Dwynwen y bocsiwr sy’n aros yng ngwesty Dewi Sant mewn ffeit. Mae hyn wedi gwneud argraff gref ar Dewi Sant ei hun.
Sut mae’r bocsiwr?
Chwilfriwiodd Santes Dwynwen y bocsiwr yn gyfan gwbl. Dim ond ar ffurf hylifol mae e’n bodoli bellach.
Hylif ymdeimladol yw e.
Mae Santes Dwynwen yn casglu’r hylif ymdeimladol mewn bwced. Atyniad twristaidd fydd e.
– We fi heb sylweddoli bo ti mor gryf, meddai Dewi Sant wrth Santes Dwynwen.
– Wedd e’n cyboli gyda’r person anghywir, meddai Santes Dwynwen.
Dyw Daf y gath ddim yn gwybod beth i’w feddwl.
Saesneg / English
Beat
Santes Dwynwen beat the boxer who is staying at Saint David’s hotel in a fight. This has made a strong impression on Saint David himself.
How is the boxer?
Santes Dwynwen completely pulverised the boxer. He only exists in liquid form now.
He is a sentient liquid.
Saint Dwynwen collects the sentient liquid in a bucket. It will be a tourist attraction.
– I didn’t realise you were so strong, says Saint David to Saint Dwynwen.
– He messed with the wrong person, said Santes Dwynwen.
Dave the cat doesn’t know what to think.