October 16, 2024

Mae Dewi Sant yn canu Offeren yn y gegin. Does neb yn mynychu, heblaw am Daf y gath, sy’n cysgu o dan y bwrdd.

Pam nad yw Dewi Sant yn canu Offeren mewn eglwys?

Achos bod yr Esgob wedi ei wahardd i wneud e.

Pam?

Wel.

Fe aeth Dewi Sant â mochyn cwta cefnogaeth emosiynol yr enwog Owain Glyndŵr i’r eglwys, gan oedd angen cyffesu arno.

Beth oedd y mochyn cwta wedi ei wneud?

Wel.

Yr oedd y mochyn cwta wedi codi stŵr yng nghromlech yr enwog Julian Cope tra oedd Bryn Teribl yn ceisio canu.

Sut oedd Dewi Sant yn disgwyl i’r mochyn cwta ddweud ei gyffes?

Pwy a ŵyr. Nid oedd y mochyn cwta mor awyddus, beth bynnag. Brathodd yn syth trwy fys yr Esgob.

Felly, y gegin amdani.

“Mae Dewi Sant yn canu Offeren yn y gegin.”

Saesneg / English

Mass

Saint David is saying Mass in the kitchen. No one is in attendance, except for Dave the cat, who is sleeping under the table.

Why is Saint David not saying Mass in a church?

Because the Bishop has forbidden him from doing it.

Why?

Well.

Saint David took the famous Owain Glyndŵr’s emotional support guinea pig to church, as it needed to confess.

What had the guinea pig done?

Well.

The guinea pig had kicked up a fuss in the famous Julian Cope’s cromlech while Bryn Teribl was trying to sing.

How did Saint David expect the guinea pig to say its confession?

Who knows. The guinea pig wasn’t so keen, anyway. He bit right through the Bishop’s finger.

So, the kitchen it is.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.