December 3, 2024

Mae mam Owain Glyndŵr wedi dod i westy Dewi Sant. Dyw’r enwog Owain Glyndŵr byth yn mynd i’w gweld hi ar Sul y Mamau, felly mae hi’n mynnu dod i’w weld e.

Pam nad yw’r enwog Owain Glyndŵr yn mynd i weld ei fam ar Sul y Mamau?

Achos taw hen sguthan floeddiog yw hi.

O diar.

Dyw hi ddim yn licio cathod chwaith.

O diar.

Ydy Owain Glyndŵr wedi prynu anrheg i’w fam?

Nac ydy.

Bydd hi’n bloeddio am hynny.

Ydy Owain Glyndŵr wedi paratoi pryd o fwyd arbennig?

Nac ydy.

Bydd mwy o floeddio am hynny.

Mae Owain Glyndŵr y tu allan yn yr ardd, yn chwarae gyda Daf y gath a’i geir bach. Mae e’n trio esgus nad yw ei fam felltigedig yno.

“Bydd mwy o floeddio am hynny.”

Saesneg / English

Mothering Sunday

Owain Glyndŵr’s mother has come to Saint David’s hotel. The famous Owain Glyndŵr never goes to see her on Mother’s Day, so she insists on coming to see him.

Why doesn’t the famous Owain Glyndŵr go to see his mother on Mother’s Day?

Because she’s a shouty old bitch.

Oh dear.

She doesn’t like cats either.

Oh diar.

Has Owain Glyndŵr bought a present for his mother?

No.

She will shout about that.

Has Owain Glyndŵr prepared a special meal?

No.

There will be more shouting about that.

Owain Glyndŵr is outside in the garden, playing with Dave the cat and his toy cars. He is trying to pretend that his accursed mother is not there.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.