December 24, 2024

Mae Jeff y gath wedi sefydlu ysgol hela mewn adeilad newydd yn yr ardd. Mae ei disgyblion, sef llu o gathod bach, wedi cyrraedd, ond ‘dyn nhw ddim wedi mynychu gwers eto.

Arhoswch am funud, mae’n annisgwyl o dawel.

Beth sy’ wedi digwydd?

Mae’r cathod bach wedi dod o hyd i Dreamies seicedelig Daf y gath.

O diar.

Maen nhw i gyd ar eu ffordd i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel.

Bydd rhaid i Jeff eu dilyn a’u hamddiffyn rhag y Pandas Pinc a’u cerddoriaeth ofnadwy.

“Maen nhw i gyd ar eu ffordd i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel.”

Saesneg / English

Unexpected Journey

Jeff the cat has set up a hunting school in a new building in the garden. Her pupils, a horde of kittens, have arrived, but they haven’t attended a lesson yet.

Wait a minute, it’s unexpectedly quiet.

What has happened?

The kittens have found Dave the cat’s psychedelic Dreamies.

Oh dear.

They are all on their way to the Other Crymych beyond the horizon.

Jeff will have to follow them and protect them from the Pink Pandas and their terrible music.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.