December 25, 2024

Mae Owain Glyndŵr wedi darganfod gwareiddiad colledig ar waelod ei dwll yn yr ardd.

Ond nid dim ond olion sydd i’w gweld. Gwareiddiad byw yw hwn.

Am ryfedd!

Ond arhoswch am funud. Pam mae’r trigolion yn cario’r enwog Owain Glyndŵr i ffwrdd? Ydyn nhw’n mynd i’w goginio e?

Nac ydyn. Maen nhw wedi ei gamgymryd am yr enwog Max Boyce, sydd yn Dduw iddyn nhw. Nawr, maen nhw’n disgwyl perfformiad.

Mae’r enwog Owain Glyndŵr yn agor ei geg a gwneud sŵn fel tractor.

Mae trigolion y gwareiddiad colledig yn sylweddoli eu camgymeriad a phenderfynu coginio’r enwog Owain Glyndŵr wedi’r cyfan.

“Mae’r trigolion yn cario’r enwog Owain Glyndŵr i ffwrdd.”

Saesneg / English

Error

Owain Glyndŵr has discovered a lost civilisation at the bottom of his hole in the garden.

But there are not only remains to be seen. This is a living civilisation.

How amazing!

But wait a minute. Why are the inhabitants carrying the famous Owain Glyndŵr away? Are they going to cook him?

No they aren’t. They have mistaken him for the famous Max Boyce, who is their God. Now, they expect a performance.

The famous Owain Glyndŵr opens his mouth and makes a noise like a tractor.

The inhabitants of the lost civilisation realise their mistake and decide to cook the famous Owain Glyndŵr after all.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.