October 17, 2024

Arhosais yn ngwesty Dewi Sant am bedair noson. Gan fy mod yn hoff iawn o gwstard, mwynheais y brecwastau’n fawr, ac roedd Santes Dwynwen yn wasanaethgar tu hwnt.

Cynghorwn unrhyw deithwyr eraill i fod yn ofalus yn y sba. Os bydd yr enwog Owain Glyndŵr yn arwain y sesiynau erobig dŵr, bydd yn bwysig iawn ichi wisgo eich sbectol ddŵr, sut gymaint y mae’n sblasio.

Tynnaf un marc oherwydd y sioc a gefais wrth adael. Gorweddai’r Hen Dduw Odin o dan fy ngwely yng nghwmni un o gathod y gwesty. Er bod corff Odin yn olygus iawn, roedd rhaid imi adael ar frys rhag ofn i rywbeth anweddus ddigwydd.

Saesneg / English

Mrs. Ifans’s TripAdvisor review

I stayed at Saint David’s hotel for four nights. As I really like custard, I really enjoyed the breakfasts, and Santes Dwynwen was extremely attentive.

I would advise any other travellers to be careful in the spa. If the famous Owain Glyndŵr is leading the aqua aerobics sessions, it will be very important that you wear your swimming goggles, he splashes so much.

I deduct one mark because of the shock I had when leaving. The Old God Odin was lying under my bed in the company of one of the hotel’s cats. Although Odin’s body was very attractive, I had to leave in a hurry in case something improper happened.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.