December 25, 2024

Fel mae’n digwydd, mwynheuodd Odin ei Dreamies cyntaf, felly mae Daf y gath wedi rhoi catnip iddo fe hefyd.

O diar.

Mae catnip yn gryf iawn yn Sir Benfro. Gan nad yw Odin yn gyfarwydd â fe, mae e’n mynd ar daith seicedelig yn syth.

Mae’n amser iddo fe arwain sesiwn erobig dŵr arall. Ond mae e’n eistedd yn ddiymateb yn y sawna.

– Rhaid bo fe ‘di mynd i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel, meddai Daf y gath i Dewi Sant. – Bydd e nôl cyn bo hir. Bydd rhaid i ti wneud y sesiwn.

Ond mae Dewi Sant yn teimlo’n swil. Dyw e ddim eisiau i neb weld ei datŵ cyfrinachol o enw Santes Dwynwen ar ei ysgwydd chwith. Mae e’n gwrthod tynnu ei wisg.

– Fydd ‘na ddim sesiwn erobig dŵr heddiw, meddai Dewi Sant.

“Mae catnip yn gryf iawn yn Sir Benfro.”

Saesneg / English

Unresponsive

As it happens, Odin enjoyed his first Dreamies, so Dave the cat has given him catnip too.

Oh dear.

Catnip is very strong in Pembrokeshire. As Odin is not used to it, he immediately goes on a psychedelic trip.

It’s time for him to lead another water aerobics session. But he is sitting unresponsive in the sauna.

– He must have gone to the Other Crymych beyond the horizon, says Dave the cat to Saint David. – He will be back soon. You will have to do the session.

But Saint David feels shy. He doesn’t want anyone to see his secret tattoo of Saint Dwynwen’s name on his left shoulder. He refuses to take off his robes.

– There will be no aqua aerobics session today, says Saint David.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.