Er bod angen slapio’r efeilliaid bob hyn a hyn, mae Odin wedi bod yn cael amser da wrth arwain sesiynau erobig dŵr yn y sba.
Dyw gwesty Dewi Sant erioed wedi bod mor brysur.
Ond yn anffodus, mae rhieni Odin wedi troi lan i’w gasglu.
O diar.
Pobl annigrif ydy Mr. a Mrs. Odin. Nid ydyn nhw am weld eu hunig blentyn yn gwneud pethau mor anurddasol. Mae Odin yn cwyno wrth iddo fe gael ei arwain i ffwrdd.
Ond pwy sy’n mynd i arwain y sesiwn erobig dŵr nawr?
Mae Owain Glyndŵr yn gwirfoddoli!
O diar.
Mae Daf y gath yn ymguddio yn y bar.
Saesneg / English
Parents
Although the twins need a slap every now and then, Odin has been having a good time leading water aerobics sessions in the spa.
Dewi Sant’s hotel has never been so busy.
But unfortunately, Odin’s parents have turned up to collect him.
Oh dear.
Mr. and Mrs. Odin are joyless people. They don’t want to see their only child doing such undignified things. Odin complains as he is led away.
But who is going to lead the water aerobics session now?
Owain Glyndŵr is volunteering!
Oh dear.
Dave the cat hides in the bar.