December 25, 2024

Mae milfeddyg yn aros yng ngwesty Dewi Sant.

Dros frecwast, mae e’n siarad â Santes Dwynwen. Maen nhw’n cytuno bod golwg nychlyd ar yr enwog Owain Glyndŵr.

– Pryd oedd y tro diwetha i chi ei ddilyngyru? gofyn y milfeddyg.

Wrth glywed y gair “dilynygyru”, mae’r cathod yn diflannu. Mae Santes Dwynwen yn codi ei hysgwyddau a throi’n ôl at ei chwstard boreol.

Mae’r milfeddyg yn gorffen ei frecwast. Mae’n amser i’r enwog Owain Glyndŵr gael ei dabled.

Pob lwc, Mistar Milfeddyg!

“Mae golwg nychlyd ar yr enwog Owain Glyndŵr.”

Saesneg / English

Worm-ridden

A vet is staying at Saint David’s hotel.

Over breakfast, he talks to Santes Dwynwen. They agree that the famous Owain Glyndŵr looks peaky.

– When was the last time you wormed him? asks the vet.

On hearing the word “wormed”, the cats disappear. Saint Dwynwen shrugs her shoulders and turns back to her morning custard.

The vet finishes his breakfast. It’s time for the famous Owain Glyndŵr to have his tablet.

Good luck, Mister Vet!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.