October 16, 2024

Mae’r enwog Bryn Teribl wedi bod yn gwneud pensafiad yn y stryd yng Nghaerdydd.

Ers pryd yw e wedi bod ben i waered?

Mae e wedi bod ben i waered ers ddoe. Rhewodd e dros nos.

Mae Dewi Sant wedi ymuno ag e dros nos. Doedd dim byd gwell gydag e i’w wneud. Doedd Dewi Sant ddim wedi gwneud pensafiad ers mwy nag wyth can mlynedd. Mae e braidd yn ansefydlog. Mae ei goesau’n chwifio yn yr awel.

Nawr, mae Santes Dwynwen newydd ymuno. Dyw hi erioed wedi gwneud pensafiad o’r blaen, felly mae hi’n cwympo sawl gwaith cyn iddi setlo. Yn anffodus, mae ei gwisg hi’n hollol anaddas i fabolgampau. Am embaras.

Mae pobl Caerdydd yn rhyfeddu at yr olygfa o ddau sant a chanwr opera yn gwneud pensafiadau. Mae rhai ohonyn nhw’n taflu ceiniogau ar y palmant.

Ond yn sydyn, mae Santes Dwynwen yn diflannu. Mae’r embaras yn ormod iddi. Mae Bryn Teribl yn ymgodi i lawsafiad campus. Ond mae Dewi Sant yn edrych braidd yn od. Dim ond cwpl o goesau yw e bellach.

“Mae Bryn Teribl yn codi i lawsafiad campus.”

Saesneg / English

More gymnasts

The famous Bryn Teribl has been doing a headstand in the street in Cardiff.

How long has he been upside down?

He has been upside down since yesterday. He froze overnight.

Saint David has joined him overnight. He had nothing better to do. Dewi Sant had not done a headstand for more than eight hundred years. He is a bit unstable. His legs are waving in the breeze.

Now, Saint Dwynwen has just joined. She has never done a headstand before, so she falls over several times before she settles. Unfortunately, her dress is completely unsuitable for gymnastics. What an embarrassment.

The people of Cardiff are amazed at the sight of two saints and an opera singer doing headstands. Some of them throw pennies on the pavement.

But suddenly, Saint Dwynwen disappears. The embarrassment is too much for her. Bryn Teribl lifts up into a splendid handstand. But Saint David looks a bit odd. He is just a couple of legs now.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.