October 16, 2024

Mae’r enwog Bryn Teribl yn sefyll ar ei ben yn y stryd. Am annisgwyl.

Dyw’r afreolus Owain Glyndŵr ddim yn gallu gwneud pensafiadau. Dyw ei synnwyr o gydbwysedd ddim yn ddigon da. Druan ar Owain.

Pam mae’r enwog Bryn Teribl yn gwneud pensafiadau yn y stryd?

Does neb yn gwybod. Efallai bod gormod o amser hamdden gydag e. Efallai nad oes digon o ymrwymiadau canu gydag e.

Mae Daf y gath yn gogleisio ceseiliau’r canwr anferth. Mae hi’n diddanu ei hun drwy geisio gwneud i’r enwog Bryn Teribl gwympo, ond heb lwyddiant. Mae Bryn Teribl mor gadarn â charreg.

Am ba mor hir fydd yr enwog Bryn Teribl ben i waered? Pwy a ŵyr.

“Mae’r enwog Bryn Teribl yn sefyll ar ei ben yn y stryd.”

Saesneg / English

Headstands

The famous Bryn Teribl is standing on his head in the street. How unexpected.

The unruly Owain Glyndŵr is not able to do headstands. His sense of balance is not good enough. Poor Owain.

Why is the famous Bryn Teribl doing headtstands in the street?

Nobody knows. Maybe he has too much time on his hands. Maybe he doesn’t have enough singing engagements.

Dave the cat is tickling the enormous singer’s armpits. She is amusing herself by trying to make the famous Bryn Teribl fall over, but without success. Bryn Teribl is as steady as a rock.

For how long will the famous Bryn Teribl be upside down? Who knows.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.