December 26, 2024

Mae’r enwog Julian Cope yn casglu’r cathod dŵr-gerddedol i gyd at ei gilydd mewn rhwyd.

– Ble gest ti dy rwyd, Julian Cope? meddai Santes Dwynwen.

Doedd dim rhwyd yn y cwch o’r blaen.

Ond dyw’r enwog Julian Cope ddim yn gwrando arni hi. Mae e’n ymddwyn yn ddirgel.

Mae Daf y gath yn gwylio gyda diddordeb. Bydd hi’n falch o gael cefn y cathod dŵr-gerddedol.

Mae Julian Cope yn agor twll yn y gofod-amser gyda’i gyffuriau cryfion ac anfon y cathod dŵr-gerddedol i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel.

– Oni fydd y Crymych Arall braidd yn llawn erbyn hyn? gofyn Daf.

Ond dyw’r enwog Julian Cope ddim yn ateb. Mae e eisoes yn breuddwydio am gromlechi.

“Mae’r enwog Julian Cope yn casglu’r cathod dŵr-gerddedol i gyd at ei gilydd mewn rhwyd.”

Saesneg / English

Gathering

The famous Julian Cope is gathering all the water-walking cats together in a net.

– Where did you get your net, Julian Cope? says Saint Dwynwen.

There was no net in the boat before.

But the famous Julian Cope isn’t listening to her. He is behaving mysteriously.

Dave the cat watches with interest. She will be glad to see the back of the water-walking cats.

Julian Cope opens a hole in space-time with his powerful drugs and sends the water-walking cats to the Other Crymych beyond the horizon.

– Won’t the Other Crymych be rather full by now? asks Dave.

But Julian Cope doesn’t answer. He is already dreaming of cromlechs.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.