753: Cewyll cimychiaid

Mae Daf y gath a’r enwog Bryn Terfel yn parhau ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro yng nghwmni Santes Dwynwen, sydd wedi bod yn casglu egroes ar Y Parrog.

Maen nhw’n cyrraedd bae lle mae dingi. Mae’r enwog Bryn Terfel yn cynhyrfu.

O diar.

Paid â mynd yn or-gyffrous, Bryn!

Ond mae’n rhy hwyr. Bant â fe i’r môr yn y dingi, cyn plymio i’r dŵr.

Mae distawrwydd llethol.

Mae Santes Dwynwen yn nerfus iawn. Ydy’r enwog Bryn Terfel wedi boddi?

Nac ydy!

Mae e’n ymgodi o’r dŵr yn gwisgo cawell cimwch fel het ysblennydd. Mae e mor hapus.

Mae Santes Dwynwen a Daf y gath yn penderfynu dwyn cwch arall a gadael yr enwog Bryn Terfel i fynd ar ei liwt ei hun gyda’i benwisgoedd abswrd.

“Mae Santes Dwynwen a Daf y gath yn penderfynu dwyn cwch arall”

Saesneg / English

Lobster pots

Dave the cat and the famous Bryn Terfel continue along the Pembrokeshire coastal path in the company of Santes Dwynwen, who has been collecting rosehips on the Parrog.

They reach a bay where there is a dinghy. The famous Bryn Terfel gets excited.

Oh dear.

Don’t get too excited, Bryn!

But it’s too late. Off he goes into the sea in the dinghy, before diving into the water.

There is an oppressive silence.

Saint Dwynwen is very nervous. Has the famous Bryn Terfel drowned?

No!

He arises from the water wearing a lobster pot as a splendid hat. He is so happy.

Saint Dwynwen and Dave the cat decide to steal another boat and leave the famous Bryn Terfel to his own devices with his absurd headgear.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.