Tra bod Daf y gath ar drip seicedelig arall yng nghwmni’r enwog Julian Cope, mae Dewi Sant wedi penderfynu agor amlosgfa lle’r oedd gwesty Daf.
– On’d oes angen trwydded arnat ti? gofyn Jeff y gath wrth iddyn nhw adeiladu’r amlosgfa o friciau’r hen westy.
– Dewi Sant ydw i, meddai Dewi Sant, yn datgan yr amlwg. – Galla i neud be bynnag dwisie.
– Os ti’n gweud ‘ny. O ble ‘yn ni’n mynd i gal y cyrff?
– Cyrff? Pa gyrff? gofyn Dewi Sant, mewn arswyd.
O diar. Mae’n debyg taw meddwl am greu canolfan ailgylchu gwastraff y cartref oedd Dewi Sant, nid amlosgfa. Ond mae’n rhy hwyr nawr.
Saesneg / English
Crematorium
While Dave the cat is on another psychedelic trip in the company of the famous Julian Cope, Dewi Sant has decided to open a crematorium where Dave’s hotel was.
– Don’t you need a licence? asks Jeff the cat as they built the crematorium from the bricks of the old hotel.
– I am Saint David, says Saint David, stating the obvious. – I can do whatever I want.
– If you say so. Where are we going to get the bodies?
– Bodies? What bodies? asks Saint David, in horror.
Oh dear. It seems that Saint David was thinking about creating a household waste recycling centre, not a crematorium. But it’s too late now.