Yn hen westy Daf y gath, mae Santes Dwynwen yn ceisio rhoi rhywfaint o drefn ar y gegin, sydd yn teimlo fel tasg amhosib.
Roedd y prif-gogydd diwethaf yn amlwg yn ffan mawr o fwyd Indiaidd, gan fod y waliau yn staeniau cyrri i gyd.
Mae chwilen ddu’n sgrialu heibio.
Fe ddaw Daf i oruchwylio.
– Beth yw hwnna? meddai Daf, yn edrych ar domen o bridd a cherrig yn y gornel.
O diar.
Mae rhywun eisoes wedi adeiladu cromlech arall yn y gegin. Siŵr o fod bydd damcaniaeth gyda’r enwog Julian Cope. Neu efallai taw gwaith ef yw e.
Ond does dim ots gyda’r enwog Bryn Terfel. Mae e’n hapus tu hwnt achos ei fod wedi dod o hyd i storfa enfawr o hetiau.
Saesneg / English
Kitchen
In Dave the cat’s old hotel, Santes Dwynwen is trying to get the kitchen into some sort of order, which feels like an impossible task.
The last head chef was clearly a big fan of Indian food, as the walls are covered in curry stains.
A cockroach scuttles past.
Dave comes to supervise.
– What’s that? says Dave, looking at a heap of earth and stones in the corner.
Oh dear.
Someone has already built another cromlech in the kitchen. The famous Julian Cope is sure to have a theory. Or maybe it’s his work.
But the famous Bryn Terfel doesn’t care. He is extremely happy because he has found a huge store of hats.