Mae’n oer.
Dyma ein hoff ganwr opera yn eistedd yn dawel yn yr oergell.
Mae’n oer yn yr oergell. Dyw’r enwog Bryn Terfel ddim yn gallu teimlo ei fysedd.
Dyw’r enwog Bryn Terfel yn ymwybodol o ymweliad yr arolygwyr hylendid bwyd, sydd wedi cau’r bwyty i lawr, chwaith.
Roedd e am chwarae cwato gyda’r enwog Owain Glyndŵr, ond roedd Owain Glyndŵr yn rhy brysur yn rhedeg o gwmpas gyda darnau o fara yn ei glustiau. Ond cuddiodd yr enwog Bryn Terfel yn yr oergell yn obeithiol beth bynnag.
Mae e’n agor drws yr oergell. Mae popeth yn dawel, tywyll. Mae e ar ei ben ei hun.
Mae’r enwog Bryn Terfel yn teimlo’n unig.
Bydd hi’n hydref cyn bo hir. Fydd ei y-fronts ddim yn ddigon i’w amddiffyn rhag oerni Sir Benfro. Bydd angen gwisg newydd arno fe.
Mae e’n chwilmentan trwy’r bwyty i gyd a dod o hyd i wisg Siôn Corn. Bydd rhaid i hynny wneud y tro.
Saesneg / English
Cold
It’s cold.
Here is our favorite opera singer sitting quietly in the fridge.
It’s cold in the fridge. The famous Bryn Terfel can’t feel his fingers.
The famous Bryn Terfel is not aware of the visit of the food hygiene inspectors, who have closed the restaurant down, either.
He wanted to play hide and seek with the famous Owain Glyndŵr, but Owain Glyndŵr was too busy running around with pieces of bread in his ears. But the famous Bryn Terfel hid hopefully in the fridge anyway.
He opens the fridge door. Everything is quiet, dark. He is alone.
The famous Bryn Terfel feels lonely.
It will soon be autumn. His y-fronts will not be enough to protect him from the Pembrokeshire cold. He will need a new outfit.
He rummages through the whole restaurant and finds a Santa costume. That will have to do.