Mae arogl llosgi yn y bwyty.
Mae Daf y gath mewn dimensiwn arall ar y catnip, felly does dim ots gyda hi. Gallai’r lle losgi yn lludw, a fyddai hi ddim yn sylwi.
Ers i Dewi Sant a Daf y gath agor y bwyty, mae Jeff y gath wedi bod yn hela cig. Mae hi’n rhyfeddol o lwyddiannus. Mae digon o gig moch i bara tan y Nadolig.
Ond nid yw’r enwog Bryn Terfel yn gogydd da. Mae e’n ceisio coginio popeth yn y tostiwr. Dyw ei efell, yr enwog Owain Glyndŵr, ddim rhyw lawer o help ychwaith. Mae’n well gydag e redeg o gwmpas yn esgus bod yn injan tân.
Nawr, mae’r enwog Bryn Terfel wedi rhoi cawl yn y tostiwr. O diar.
Wrth i’r fflamau godi, mae Daf y gath yn deffro a meddwl ei bod hi’n ôl yn uffern.
Saesneg / English
Toaster
There is a burning smell in the restaurant.
Dave the cat is in another dimension on the catnip, so she isn’t bothered. The place could burn to ashes, and she wouldn’t notice.
Since Saint David and Dave the cat opened the restaurant, Jeff the cat has been hunting meat. She is surprisingly successful. There is enough bacon to last until Christmas.
But the famous Bryn Terfel is not a good cook. He tries to cook everything in the toaster. His twin, the famous Owain Glyndŵr, is not much help either. He prefers running around pretending to be a fire engine.
Now, the famous Bryn Terfel has put soup in the toaster. Oh dear.
As the flames rise, Dave the cat wakes up and thinks she is back in hell.