December 25, 2024

Mae Daf y gath wedi llwyddo i ganfod siop peiriannydd peiriannau drymiau yn y porthladd. “Drymiau digidol” ydyw enw’r siop.

Felly, mae problem. Mae calon Daf yn suddo.

Pam?

Achos bod ei pheiriant drymiau hi’n hollol analog.

O diar.

Mae hi’n dychwelyd i’r llong fordaith yn drist, a dweud y newyddion wrth aelodau eraill y band jazz-funk sanctaidd.

Byddai’r enwog Bryn Terfel yn fodlon rhoi cynnig ar drwsio’r peiriant yn fyw ar y llwyfan yn ystod gig heno, mae’n debyg. Am theatraidd.

Yn gyndyn, mae Daf yn cytuno.

Mae’r gig yn cychwyn gyda Dewi Sant yn bîtbocsio tra bod Daf y gath yn curo symbal gyda’i chynffon a‘r enwog Bryn Terfel yn chwifio’i haearn sodro ag osgo.

Yn sydyn, mae ffrwydrad mawr, ac mae’r gynulleidfa’n mynd i banig wrth i bopeth yn yr ystafell ddawnsio fynd yn dywyll.

Saesneg / English

Engineers

Dave the cat has managed to find a drum machine mechanic’s shop in the port. The name of the shop is “Digital Drums”.

So, there is a problem. Dave’s heart sinks.

Why?

Because her drum machine is completely analogue.

Oh dear.

She returns to the cruise ship sadly, and tells the news to the other members of the holy jazz-funk band.

The famous Bryn Terfel would be willing to have a go at fixing the machine live on stage during tonight’s gig, apparently. How theatrical.

Reluctantly, Dave agrees.

The gig begins with Saint David beatboxing while Dave the cat hits a cymbal with her tail and the famous Bryn Terfel brandishes his soldering iron with a flourish.

Suddenly, there is a big explosion, and the audience panics as everything in the ballroom goes dark.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.