Ar fwrdd y llong fordaith, does dim gig i’r band jazz-funk sanctaidd heno.
– Sai’mod be sy my’ ‘mlan ‘da Dewi Sant ‘eddi’, meddai Daf y gath wrth ei chwaer Jeff.
– Falle bydd e’n well fory, meddai Jeff.
– Falle, falle ddim, meddai Daf, – Ma fe ‘di bod yn chwydu ers sbel, twel.
– Wedd e fel “bydda i’n ffeind”, t’mod, ond yna trodd e’n wyrdd ‘to.
Mae Dewi Sant yn siarad â Duw trwy’r teleffon porslen.
Yn anffodus yr Esgob sy’n ateb.