October 16, 2024

Diwrnod heddychlon yw e, am unwaith. Mae pawb yn yr ardd yn cysgu’n drwm, heblaw am y Frenhines Branwen, sydd yn dinistrio rhywbeth yn dawel mewn cornel.

Mae Daf y gath yn gysglyd iawn. Mae hi newydd ddychwelyd o ddimensiwn arall lle mae hi wedi cwrdd â ffrind hanesyddol newydd, sef Margaret ferch Owain.

Mae Daf y gath wedi gwahodd Margaret ferch Owain yn ôl i’r ardd. Felly, dyma hi. Mae hi’n gwisgo ffrog o’r canol oesoedd, pâr o esgidiau Dr. Martens, a het hen ffasiwn.

Wrth i bawb gysgu, mae Margaret ferch Owain yn fforio yn yr ardd. Mae hi’n dod o hyd i Bryn Terfel, sydd yn dal i wisgo het bigfain ysblennydd yr Esgob. Mae hi’n baglu dros Dewi Sant, sydd wedi pasio mas ar ôl yfed potel lawn o wisgi eto.

Mae hi’n deffro Eifion yr octopws ar ddamwain. Mae e’n syllu arni hi am funud.

– Mam-gu! meddai’n swrth.

Saesneg / English

Peace

It’s a peaceful day, for once. Everyone in the garden is fast asleep, except for Queen Branwen, who is quietly destroying something in a corner.

Dave the cat is very sleepy. She has just returned from another dimension where she has met a new historical friend, Margaret ferch Owain.

Dave the cat has invited Margaret ferch Owain back to the garden. So here she is. She is wearing a medieval dress, a pair of Dr. Martens, and an old-fashioned hat.

While everyone is sleeping, Margaret ferch Owain explores the garden. She finds Bryn Terfel, who is still wearing the Bishop’s splendid pointy hat. She stumbles over Saint David, who has passed out after drinking a full bottle of whisky again.

She accidentally wakes up Eifion the octopus. He stares at her for a minute.

– Grandma! he says drowsily.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.