December 25, 2024

Mae hi’n bwrw eira.

Mae’r cathod wedi dwyn y tun rhostio. Maen nhw eisiau defnyddio’r tun rhostio fel tobogan.

Ond does dim bryn yn yr ardd, heblaw am Bryn Terfel. Mae Bryn Terfel yn hoffi bananas, ond yn anffodus mae e’n hoffi tuniau rhostio hefyd.

O na.

Mae e’n tipio’r cathod allan o’r tun rhostio a gwisgo’r tun fel het, sydd yn ffitio’n dda achos bod Bryn Terfel yn anferth.

Mae’r cathod yn eistedd yn dawel mewn sioc am sawl munud. Mae Bryn Terfel hefyd yn dawel, gan fod ei geg yn llawn dop o fananas.

Saesneg / English

Roasting tin

It is snowing.

The cats have stolen the roasting tin. They want to use the roasting tin as a toboggan.

But there is no hill in the garden, apart from Bryn Terfel. Bryn Terfel likes bananas, but unfortunately he also likes roasting tins.

Oh no.

He tips the cats out of the roasting tin and wears the tin as a hat, which fits well because Bryn Terfel is enormous.

The cats sit quietly in shock for several minutes. Bryn Terfel is also quiet, as his mouth is full of bananas.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.