395: Afancod, rhan 5

Mae Daf y gath a’r afanc mae hi wedi gwerthu ar-lein yn trio ffeindio’r ficer sydd wedi ei brynu.

Yn y cyfamser, mae Jeff y gath yn cael llawer o drafferth gyda’r pum cant o afancod eraill. Maen nhw’n cnoi popeth.

Ond waeth byth, maen nhw’n dwyn bwyd Jeff. A’r Dreamies.

Dyw hi ddim yn gwybod beth i’w wneud. Mae afancod ym mhobman.

– Gweddïwn, meddai Dewi Sant.

– Fydd hynny ddim yn lot o help, meddai Jeff.

– Beth am i fi ddweud offeren, ‘te?

– Byddi di’n cwmpo i gysgu hanner ffordd trwyddi hi.

– Cwpl o afeau Maria falle?

– Na. Ni angen hud a lledrith.

Mae Jeff yn penderfynu mynd i weld yr Archfadarch.

Saesneg / English

Beavers, part 5

Dave the cat and the beaver she has sold online is tryng to find the vicar who has bought it.

Meanwhile, Jeff the cat is having a lot of trouble with the other five hundred beavers. They are chewing everything.

But even worse, they steal Jeff’s food. And the Dreamies.

She doesn’t know what to do. Beavers are everywhere.

– Let us pray, says Saint David.

– That won’t be much help, says Jeff.

– How about I say mass, then?

– You’ll fall asleep halfway through it.

– A couple of Hail Marys perhaps?

– No. We need magic.

Jeff decides to go and see the Arch-mushroom.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.