Mae Daf y gath wedi palu twll yng ngwely y rhosod.
– Be’ sy’, Daf? meddai Jeff ei chwaer.
– Dwi’n cynnal angladd.
– Angladd pwy?
– Angladd ‘nghallineb. Wedd ‘mhrofiad seicedelig dwetha tamed bach yn gryf. Dwi wedi mynd o ‘ngho. Sdim ffordd nôl.
– Cymera llond llwy bwrdd o gwstard a byddi di’n ffein. Dere mlan.