Tŷ Franz Kafka, rhan 3

Fel arfer, mae Dewi Sant yn anwybyddu’r tatws. Dyw e ddim yn hoffi pethau swnllyd. Mae’n well gyda fe dreulio’i amser yn dawel yn ei sied yng nghwmni potel o win.

Ond mae e wedi gwylio’r Prifdaten yn lladd y tatws fesul un. Ac am unwaith, mae e’n mynd i wneud rhywbeth. Mae e’n mynd i gosbi’r Prifdaten.

Yn gyntaf, mae Dewi Sant yn plicio’r Prifdaten fel ei fod e’n noethlymun. Am embaras. Erbyn hyn, mae ei gweiddi arferol wedi darfod.

Yna, amser gwaith yw hi. Mae Dewi Sant yn gorfodi’r Prifdaten i balu yn y ddaear sych. Ar ei ben ei hun. Am oriau.

Erbyn machlud yr haul, mae pentwr o frics bychan yn aros i ddod yn dŷ i Franz Kafka.

Ac mae Prifdaten yn gynddeiriog.

Saesneg / English

Usually, St David ignores the potatoes. He doesn’t like noisy things. He prefers to spend his time quietly in his shed with a bottle of wine.

But he has watched the Prime Potato kill the potatoes one by one. And for once, he’s going to do something. He is going to punish the Prime Potato.

First, Saint David peels the Prime Potato so that he is naked. What an embarrassment. By this time, his usual shouting has ceased.

Then it’s time for work. Saint David forces the Prime Potato to dig in the dry ground. On his own. For hours.

By sunset, a small pile of bricks is waiting to become Franz Kafka’s house.

And the Prime Potato is furious.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.