Mae Daf y gath yn meindio ei busnes ei hunan, pan mae Santes Dwynwen yn ymddangos. Mae hi’n poeni. Mae hi’n poeni’n arw.

– Meddyg wyt ti? meddai Santes Dwynwen.

Mae Daf yn meddwl am eiliad. Mae hi’n rhy ddiog i chwarae o gwmpas heddiw.

– Nadw. Cath dw i.

– Ond mae Dewi Sant yn marw. Mae e wedi yfed gormod unwaith eto.

– Cath dw i. Dw i’n medru bwyta, cysgu, a llyfu pethau. Felly os yw Dewi Sant yn marw, bydda i’n hapus i esgus bod yn feddyg a’i fwyta e, neu’i lyfu e.

– Dwyt ti ddim yn ddoniol, ti ‘mod.

– Does dim ots gyda fi, meddai Daf, a mynd yn ôl i gysgu.

Saesneg / English

Doctor Dave

Dave the cat is minding her own business, when Saint Dwynwen appears. She is worried. She is very worried.

– Are you a doctor? says Saint Dwynwen.

Dave thinks for a moment. She is too lazy to play around today.

– No. I’m a cat.

– But Saint David is dying. He has drunk too much again.

– I’m a cat. I can eat, sleep, and lick things. So if Saint David is dying, I’ll be happy to pretend to be a doctor and eat him, or lick him.

– You’re not funny, y’know.

– I don’t care, says Dave, and goes back to sleep.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.