Un tro, roedd y staff wedi prynu chaise longue i’r cathod. Mewn gwirionedd, roedd e fel y peth crafu, ond ar siâp chaise longue.
Dathlodd Jeff wrth wneud bach o gyfieithu. Dechreuodd canu.
Mam, Dad, ‘drychwch arna i
es i i’r brifysgol a chael gradd
mae fy ffrindiau i gyd yn ei alw “y D mawr”
es i i’r brifysgol a chael y D mawr
ydy dy fyffin â menyn?
hoffet ti i ni neilltuo rhywun i ledaenu menyn ar dy fyffin?
esgusoda fi
beth
esgusoda fi
beth
hei ti
draw fan ‘co
ar y chaise longue
yn dy ddillad isaf
pam ar wyneb y ddaear wyt ti’n eistedd
dylet ti fod yn llorwedd erbyn hyn
ydy dy fam yn poeni
hoffet ti i ni neilltuo rhywun i boeni dy fam?
esgusoda fi
beth
esgusoda fi
beth
hei ti
yn y rhes flaen
wyt ti’n dod gefn llwyfan ar ôl y sioe
‘chos bos chaise longue gyda fi yn fy stafell wisgo
a phecyn o gwrw twym allwn ni yfed
ar y chaise longue
ar y chaise longue
ayyb
– So hynny’n neud synnwyr o gwbl. A pam mae dy goesau’n wlyb? gofynnodd Daf.
– Dyna’r jôc, atebodd Jeff, yn falch iawn ohoni hi ei hun.
– Jôc anobeithiol, on’d ife? Dwi angen mwy o gyffuriau. Ta-ra.