Mae mwydod gyda Daf y gath a Jeff ei chwaer. Amser cymryd tabledi yw e. Tabledi er mwyn cael gwared â’r mwydod.
Mae’r staff yn cuddio tabled yr un mewn darn o gaws. Mae Jeff yn bwyta’r caws heb oediad.
– Dw i ddim yn hoffi caws rhagor, meddai Daf.
Felly mae’r staff yn cuddio tabled mewn bwyd cathod.
– Mae blas od ar y bwyd ‘ma, meddai Daf. – Dw i ddim eisiau’i fwyta.
Felly mae’r staff yn esgus taw Dreamie yw’r dabled.
– Dyw hwnna ddim yn Dreamie, meddai Daf, a bant â hi.
Mae’r mwydod yn cael parti y tu mewn i Daf.
Saesneg / English
Tablets
Dave the cat and her sister Jeff have got worms. It’s time to take tablets. Tablets to get rid of the worms.
The staff hide a tablet each in a piece of cheese. Jeff eats the cheese without delay.
– I don’t like cheese any more, says Dave.
So the staff hide a tablet in cat food.
– This food tastes odd, says Dave. – I don’t want to eat it.
So the staff pretend that the tablet is Dreamie.
– That’s not Dreamie, says Dave, and off she goes.
The worms are having a party inside Dave.